Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd/Zoom

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2020

Amser y cyfarfod: 13.30
 


302(v5)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.

Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd)

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhoi'r Strategaeth Ryngwladol ar Waith

(45 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn sgil y datganiad ar frechlyn COVID-19 gan Pfizer, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch strategaeth ar gyfer cyflwyno'r brechlyn ledled Cymru?

</AI5>

<AI6>

5       Datganiadau 90 eiliad

(5 munud)

</AI6>

<AI7>

Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau

 

NDM7471 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnigbod y Senedd, ynunol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol David Rowlands (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. 

 

NDM7472 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnigbod y Senedd, ynunol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol David Rowlands (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o Bwyllgor y Llywydd. 

 

NDM7473 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnigbod y Senedd, ynunol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mandy Jones (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. 

 

NDM7474 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnigbod y Senedd , ynunol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: 

1. David Rowlands (Y GynghrairAnnibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. 

2. Caroline Jones (Y GynghrairAnnibynnol dros Ddiwygio) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

</AI7>

<AI8>

6       Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22

(30 munud)

NDM7458 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, a osodwyd gerbron y Senedd ar 4 Tachwedd 2020 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

 

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb gan Gomisiwn y Senedd

</AI8>

<AI9>

7       Dadl ar Ddeiseb P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfyngiadau symud

(30 munud)

NDM7460 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud’ a gasglodd fwy na 67,000 o lofnodion.

P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud

</AI9>

<AI10>

8       Dadl ar Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith yr achosion o COVID-19 ar y diwydiannau creadigol

(30 munud)

NDM7461  Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Effaith yr achosion Covid-19 ar y diwydiannau creadigol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2020.

Dogfennau Ategol

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad

</AI10>

<AI11>

9       Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol

(30 munud)

NDM7459 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Caffael yn yr Economi Sylfaenol - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2020.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2020.

</AI11>

<AI12>

10    Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Lluoedd Arfog

(60 munud)

NDM7456 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai heddiw yw Diwrnod y Cadoediad.

2. Yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethau ein gwlad, gan gynnwys clwyfedigion sifil gwrthdaro.

3. Yn diolch i'r holl sefydliadau hynny ledled Cymru sy'n gweithio i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a'n cyn-filwyr.

4. Yn mynegi diolch am gyfraniad sylweddol y Lluoedd Arfog i'r ymateb COVID-19 cenedlaethol yng Nghymru. 

5. Yn cydnabod y cyfraniad parhaus sylweddol y mae'r fyddin yn ei wneud i Gymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth iddi geisio cynnal Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Cyfamod y Lluoedd Arfog (Saesneg yn unig)

Cyd-gyflwynwyr

Rebecca Evans

Siân Gwenllian

Caroline Jones

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel.

Yn credu bod yn rhaid i Gymru, ar adeg o heriau cenedlaethol a byd-eang na welwyd eu tebyg o'r blaen, chwarae ei rhan wrth lunio dyfodol heddychlon ac felly yn croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru.

</AI12>

<AI13>

11    Cyfnod pleidleisio

 

</AI13>

<AI14>

12    Dadl Fer

(30 munud)

NDM7457 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Mynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth yn GIG Cymru.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2020

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>